Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:28-38 beibl.net 2015 (BNET)

28. Ti'n achub pobl sy'n dioddef,ond yn torri crib y rhai balch.

29. Ie, ti ydy fy lamp i, o ARGLWYDD,ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.

30. Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!

31. Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn;mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir.Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.

32. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?

33. Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth –mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.

34. Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.

35. Dysgodd fi sut i ymladd –dw i'n gallu plygu bwa o bres!

36. Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian.Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.

37. Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaena wnes i ddim baglu.

38. Es ar ôl fy ngelynion, a'u difa nhw;wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22