Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:11-30 beibl.net 2015 (BNET)

11. Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan;a codi ar adenydd y gwynt.

12. Gwisgodd dywyllwch drosto –cymylau duon stormus;a gwnaeth gymylau trwchus yr awyryn ffau o'i gwmpas.

13. Roedd golau disglair o'i flaena'r mellt fel marwor tanllyd.

14. Yna taranodd yr ARGLWYDD o'r awyr –sŵn llais y Goruchaf yn galw.

15. Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn;roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.

16. Daeth gwely'r môr i'r golwg;ac roedd sylfeini'r ddaear yn noethwrth i'r ARGLWYDD ruo,a chwythu anadl o'i ffroenau.

17. Estynnodd i lawr o'r ucheldera gafael ynof fi;tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.

18. Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig –y rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.

19. Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul,ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i.

20. Daeth â fi allan i ryddid!Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.

21. Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn;mae fy nwylo'n lân,ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.

22. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon,heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.

23. Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.

24. Dw i wedi bod yn ddi-faiac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.

25. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn,ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.

26. Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon,ac yn deg â'r rhai di-euog.

27. Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.

28. Ti'n achub pobl sy'n dioddef,ond yn torri crib y rhai balch.

29. Ie, ti ydy fy lamp i, o ARGLWYDD,ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.

30. Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22