1. Dyma eiriau'r gân wnaeth Dafydd ei chanu i'r ARGLWYDD ar ôl i'r ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion ac o afael Saul:
2. Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi,yn gastell ac yn achubwr.
3. Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani;yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.Mae'n fy achub i rhag trais.
4. Gelwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli,ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
5. Roeddwn i'n boddi dan donnau marwolaeth;roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
6. Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas,a maglau marwolaeth o'm blaen.
7. Gelwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt,a gweiddi ar fy Nuw.Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais;gwrandawodd arna i'n galw.
8. Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu.Roedd sylfeini'r nefoedd yn crynuac yn ysgwyd, am ei fod wedi digio.
9. Daeth mwg allan o'i ffroenau,a thân dinistriol o'i geg;roedd marwor yn tasgu ohono.
10. Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
11. Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan;a codi ar adenydd y gwynt.
12. Gwisgodd dywyllwch drosto –cymylau duon stormus;a gwnaeth gymylau trwchus yr awyryn ffau o'i gwmpas.
13. Roedd golau disglair o'i flaena'r mellt fel marwor tanllyd.
14. Yna taranodd yr ARGLWYDD o'r awyr –sŵn llais y Goruchaf yn galw.