Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma eiriau'r gân wnaeth Dafydd ei chanu i'r ARGLWYDD ar ôl i'r ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion ac o afael Saul:

2. Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi,yn gastell ac yn achubwr.

3. Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani;yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.Mae'n fy achub i rhag trais.

4. Gelwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli,ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.

5. Roeddwn i'n boddi dan donnau marwolaeth;roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.

6. Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas,a maglau marwolaeth o'm blaen.

7. Gelwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt,a gweiddi ar fy Nuw.Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais;gwrandawodd arna i'n galw.

8. Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu.Roedd sylfeini'r nefoedd yn crynuac yn ysgwyd, am ei fod wedi digio.

9. Daeth mwg allan o'i ffroenau,a thân dinistriol o'i geg;roedd marwor yn tasgu ohono.

10. Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22