Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 21:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Dyma Dafydd yn cymryd esgyrn Saul a Jonathan o Jabesh. Wedyn dyma nhw'n casglu esgyrn y rhai oedd wedi cael eu crogi,

14. a'i claddu gydag esgyrn Saul a Jonathan ym medd Cish (tad Saul) yn Sela, yn ardal Benjamin.Ar ôl iddyn nhw wneud popeth roedd y brenin wedi ei orchymyn, dyma'r ARGLWYDD yn ateb gweddïau pobl dros y wlad.

15. Buodd yna ryfel arall rhwng y Philistiaid a'r Israeliaid. A dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd i lawr i ymladd yn erbyn y Philistiaid. Pan oedd Dafydd wedi blino'n lân

16. roedd Ishbi-benob (un o ddisgynyddion y Reffaiaid) ar fin ei ladd. Roedd ei waywffon yn pwyso tair cilogram a hanner, ac roedd ganddo gleddyf newydd.

17. Ond dyma Abishai (mab Serwia) yn dod i helpu Dafydd a taro'r Philistiad a'i ladd. Ar ôl hyn dyma filwyr Dafydd yn tyngu iddo, “Gei di ddim dod allan i frwydro gyda ni eto! Does gynnon ni ddim eisiau i lamp Israel gael ei diffodd!”

18. Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Gob. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Saff, un arall o ddisgynyddion y Reffaiaid.

19. Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid yn Gob, dyma Elchanan fab Jair o Fethlehem yn lladd brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)

20. Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar bob llaw ac ar ei ddwy droed – dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.)

21. Roedd yn gwneud hwyl am ben byddin Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma brawd Dafydd, yn ei ladd e.

22. Roedd y pedwar yma gafodd eu lladd yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un ohonyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 21