Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 21:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn ystod cyfnod Dafydd fel brenin roedd yna newyn aeth ymlaen am dair blynedd lawn. Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD pam. A dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Am fod Saul a'i deulu yn euog o lofruddio pobl Gibeon.”

2. (Doedd pobl Gibeon ddim yn Israeliaid. Nhw oedd yn weddill o'r Amoriaid, ac roedd yr Israeliaid wedi addo byw yn heddychlon â nhw. Ond roedd Saul wedi ceisio cael gwared â nhw am ei fod mor frwd dros Israel a Jwda.)Felly dyma'r Brenin Dafydd yn galw pobl Gibeon ato iddo gael siarad â nhw.

3. Gofynnodd iddyn nhw, “Beth alla i wneud i chi? Sut alla i wneud iawn am hyn, fel eich bod chi yn bendithio pobl yr ARGLWYDD?”

4. A dyma'r Gibeoniaid yn ateb, “Dydy arian byth yn mynd i wneud iawn am beth wnaeth Saul a'i deulu. Ac allwn ni ddim dial drwy ladd unrhyw un yn Israel.” Ond dyma Dafydd yn dweud, “Dwedwch beth ydych chi eisiau.”

5. A dyma nhw'n ateb, “Saul oedd yr un oedd eisiau'n difa ni a chael gwared â ni'n llwyr o Israel.

6. Rho saith o'i ddisgynyddion e i ni. Gwnawn ni eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea, tref Saul gafodd ei ddewis gan yr ARGLWYDD.” A dyma'r brenin Dafydd yn ateb, “Iawn, gwna i eu rhoi nhw i chi.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 21