Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 20:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. (Roedd Amasa yn gorwedd yno mewn pwll o waed ar ganol y ffordd.) Pan welodd y swyddog fod y milwyr i gyd yn aros i edrych ar y corff yn lle mynd heibio, dyma fe'n llusgo'r corff o'r ffordd i'r cae a thaflu clogyn drosto.

13. Wedi i'r corff gael ei symud o'r ffordd dyma'r fyddin i gyd yn dilyn Joab i fynd ar ôl Sheba fab Bichri.

14. Roedd Sheba wedi teithio o gwmpas llwythau Israel i gyd, a cyrraedd Abel-beth-maacha. Roedd y llwythau eraill wedi ei wrthod, ond cafodd ei bobl ei hun, y Bichriaid, i'w ganlyn.

15. Yna dyma Joab a'i ddynion yn cyrraedd yno, a gwarchae ar Abel-beth-maacha. Roedden nhw wedi codi ramp yn erbyn wal y dref. Wrth i filwyr Joab geisio torri trwy'r wal a'i chwalu,

16. dyma ryw wraig ddoeth o'r dref yn gweiddi arnyn nhw, “Gwrandwch! Gwrandwch! Dwedwch wrth Joab am ddod yma. Mae gen i rywbeth i'w ddweud wrtho.”

17. Pan aeth Joab ati, dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Ai ti ydy Joab?” “Ie,” meddai. A dyma hi'n dweud, “Gwranda, mae gan dy forwyn awgrym.” “Dw i'n gwrando,” meddai.

18. A dyma hi'n dweud wrtho, “Mae yna hen ddywediad, ‘Os ydych chi eisiau setlo unrhyw fater, ewch i ofyn cyngor yn Abel.’

19. Dw i'n un o'r rhai ffyddlon sydd eisiau gweld heddwch yn Israel. Ond rwyt ti yma'n ceisio dinistrio un o drefi pwysica'r wlad. Pam wyt ti eisiau difetha tref sy'n perthyn i'r ARGLWYDD?”

20. Dyma Joab yn ateb, “Dim o'r fath beth! Dw i ddim eisiau dinistrio na difetha'r dre!

21. Dim fel yna mae hi o gwbl. Mae yna ddyn o fryniau Effraim o'r enw Sheba fab Bichri wedi troi yn erbyn y brenin Dafydd. Dim ond i chi roi'r dyn hwnnw i mi, gwna i adael llonydd i'r dre.” “Iawn,” meddai'r wraig, “Gwnawn ni daflu ei ben e dros wal y dre i ti!”

22. Felly dyma'r wraig yn rhannu ei chyngor doeth gyda'r bobl. A dyma nhw'n torri pen Sheba fab Bichri, a'i daflu allan i Joab. A dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a gadawodd y fyddin y dre ac aeth pawb adre. Aeth Joab ei hun yn ôl i Jerwsalem at y brenin.

23. Joab oedd pennaeth byddin gyfan Israel. Benaia fab Jehoiada oedd yn arwain gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid).

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 20