Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 20:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd yna ddyn o lwyth Benjamin yno ar y pryd – Sheba fab Bichri, dyn drwg oedd yn codi twrw. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd a gweiddi,“Does gynnon ni ddim i'w wneud â Dafydd!Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse!Yn ôl adre bobl Israel!”

2. Felly dyma ddynion Israel i gyd yn gadael Dafydd a dilyn Sheba fab Bichri. Ond arhosodd dynion Jwda gyda'r brenin a mynd gydag e o'r Afon Iorddonen i Jerwsalem.

3. Wedi cyrraedd y palas yn Jerwsalem dyma Dafydd yn trefnu fod y deg cariad roedd e wedi eu gadael i ofalu am y palas i'w cadw dan warchodaeth. Trefnodd fod ganddyn nhw bopeth roedden nhw ei angen, ond gafodd e ddim perthynas gyda nhw byth eto. Buon nhw'n byw fel gweddwon, dan glo am weddill eu bywydau.

4. Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Amasa, “Dos i gasglu milwyr Jwda ata i, a bydd yn ôl yma cyn pen tridiau.”

5. I ffwrdd ag Amasa i gasglu milwyr Jwda at ei gilydd, ond cymerodd fwy o amser nag a roddodd Dafydd iddo.

6. Felly dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai, “Mae Sheba fab Bichri yn mynd i achosi mwy o helynt i mi nag Absalom! Cymer y dynion sydd gen i a dos ar ei ôl, rhag iddo gipio trefi caerog oddi arnon ni a llwyddo i ddianc.”

7. Felly dyma ddynion Joab yn gadael Jerwsalem gyda gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid) a'r milwyr gorau eraill i gyd, a mynd ar ôl Sheba fab Bichri.

8. Pan gyrhaeddon nhw'r graig fawr sydd yn Gibeon roedd Amasa yn dod i'w cyfarfod. Roedd Joab yn ei lifrai milwrol, gyda cleddyf yn ei wain ar y belt oedd am ei ganol. Wrth iddo gamu ymlaen dyma'r cleddyf yn syrthio ar lawr.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 20