Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 20:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd yna ddyn o lwyth Benjamin yno ar y pryd – Sheba fab Bichri, dyn drwg oedd yn codi twrw. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd a gweiddi,“Does gynnon ni ddim i'w wneud â Dafydd!Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse!Yn ôl adre bobl Israel!”

2. Felly dyma ddynion Israel i gyd yn gadael Dafydd a dilyn Sheba fab Bichri. Ond arhosodd dynion Jwda gyda'r brenin a mynd gydag e o'r Afon Iorddonen i Jerwsalem.

3. Wedi cyrraedd y palas yn Jerwsalem dyma Dafydd yn trefnu fod y deg cariad roedd e wedi eu gadael i ofalu am y palas i'w cadw dan warchodaeth. Trefnodd fod ganddyn nhw bopeth roedden nhw ei angen, ond gafodd e ddim perthynas gyda nhw byth eto. Buon nhw'n byw fel gweddwon, dan glo am weddill eu bywydau.

4. Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Amasa, “Dos i gasglu milwyr Jwda ata i, a bydd yn ôl yma cyn pen tridiau.”

5. I ffwrdd ag Amasa i gasglu milwyr Jwda at ei gilydd, ond cymerodd fwy o amser nag a roddodd Dafydd iddo.

6. Felly dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai, “Mae Sheba fab Bichri yn mynd i achosi mwy o helynt i mi nag Absalom! Cymer y dynion sydd gen i a dos ar ei ôl, rhag iddo gipio trefi caerog oddi arnon ni a llwyddo i ddianc.”

7. Felly dyma ddynion Joab yn gadael Jerwsalem gyda gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid) a'r milwyr gorau eraill i gyd, a mynd ar ôl Sheba fab Bichri.

8. Pan gyrhaeddon nhw'r graig fawr sydd yn Gibeon roedd Amasa yn dod i'w cyfarfod. Roedd Joab yn ei lifrai milwrol, gyda cleddyf yn ei wain ar y belt oedd am ei ganol. Wrth iddo gamu ymlaen dyma'r cleddyf yn syrthio ar lawr.

9. Dyma fe'n cyfarch Amasa, “Sut wyt ti frawd?” Yna gafaelodd ym marf Amasa gyda'i law dde wrth ei gyfarch gyda chusan.

10. Doedd Amasa ddim wedi sylwi ar y dagr oedd yn llaw chwith Joab, a dyma Joab yn ei drywanu yn ei fol nes i'w berfedd dywallt ar lawr. Doedd dim rhaid ei drywanu yr ail waith, roedd yr ergyd gyntaf wedi ei ladd.Yna dyma Joab a'i frawd Abishai yn mynd yn ei blaenau ar ôl Sheba fab Bichri.

11. Dyma un o swyddogion ifanc Joab yn sefyll wrth gorff Amasa a gweiddi, “Pawb sydd o blaid Joab ac yn cefnogi Dafydd, dilynwch Joab!”

12. (Roedd Amasa yn gorwedd yno mewn pwll o waed ar ganol y ffordd.) Pan welodd y swyddog fod y milwyr i gyd yn aros i edrych ar y corff yn lle mynd heibio, dyma fe'n llusgo'r corff o'r ffordd i'r cae a thaflu clogyn drosto.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 20