Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 2:9-23 beibl.net 2015 (BNET)

9. Yno roedd wedi ei wneud e'n frenin ar Israel gyfan – gan gynnwys ardal Gilead, pobl Asher, Jesreel, Effraim a Benjamin.

10. Roedd Ish-bosheth, mab Saul, yn bedwar deg oed pan ddaeth yn frenin ar Israel. Bu'n frenin arnyn nhw am ddwy flynedd. Ond roedd pobl Jwda yn dilyn Dafydd.

11. Bu Dafydd yn frenin yn Hebron am saith mlynedd a hanner.

12. Yna dyma Abner fab Ner a swyddogion milwrol Ish-bosheth, mab Saul, yn mynd o Machanaîm i Gibeon.

13. A dyma Joab, mab Serwia, a swyddogion milwrol Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw. Dyma'r ddau grŵp yn aros, un bob ochr i'r pwll yn Gibeon.

14. Dyma Abner yn gweiddi draw at Joab, “Gad i rai o'r milwyr ifanc ymladd yn erbyn ei gilydd o'n blaenau ni.” A dyma Joab yn cytuno.

15. Felly dyma nhw'n cyfri un deg dau o lwyth Benjamin ar ochr Ish-bosheth, ac un deg dau o swyddogion Dafydd.

16. Wrth reslo gyda'i gilydd dyma pob un yn gwthio'i gleddyf i ochr ei wrthwynebydd, a dyma nhw i gyd yn syrthio'n farw. (Dyna pam maen nhw'n galw'r lle hwnnw yn Gibeon yn ‛Faes y Llafnau‛.)

17. Roedd yr ymladd yn galed y diwrnod hwnnw, a chafodd Abner a byddin Israel eu trechu gan filwyr Dafydd.

18. Roedd tri mab Serwia yno, sef Joab, Abishai ac Asahel. Roedd Asahel yn gallu rhedeg mor gyflym â gasél,

19. a dyma fe'n mynd ar ôl Abner. Roedd yn gwbl benderfynol o'i ddal.

20. Dyma Abner yn troi i edrych yn ôl a galw arno, “Ai ti ydy e Asahel?” “Ie, fi!” meddai Asahel.

21. “Dos ar ôl rhywun arall. Dal un o'r milwyr ifanc a chymryd ei arfau e,” meddai Abner wrtho. Ond doedd Asahel ddim yn fodlon rhoi'r gorau iddi.

22. Galwodd Abner arno eto, “Tro yn ôl! Does gen i ddim eisiau dy ladd di. Sut allwn i wynebu Joab dy frawd?”

23. Ond roedd Asahel yn gwrthod stopio. Felly dyma Abner yn ei daro yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy'i gefn. Syrthiodd Asahel yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb aeth heibio lle roedd Asahel wedi marw yn sefyll yn syn.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 2