Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 2:25-32 beibl.net 2015 (BNET)

25. Roedd dynion Benjamin wedi dod at ei gilydd yno ac yn sefyll gydag Abner yn un grŵp ar ben y bryn.

26. A dyma Abner yn gweiddi ar Joab, “Ydyn ni'n mynd i ddal ati i ladd ein gilydd am byth? Os daliwn ni ati bydd pethau yn ofnadwy o chwerw yn y diwedd. Dywed wrth dy ddynion am stopio mynd ar ôl eu brodyr!”

27. Dyma Joab yn ateb, “Petaet ti heb ddweud hyn, mor sicr â bod Duw yn fyw, byddai'r dynion wedi dal ati i fynd ar eich ôl chi drwy'r nos!”

28. Yna dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a dyma nhw'n stopio mynd ar ôl Israel, a rhoi'r gorau i'r ymladd.

29. Y noson honno dyma Abner a'i ddynion yn mynd ar draws yr Araba a chroesi'r Afon Iorddonen. Yna martsio yn eu blaenau drwy'r bore wedyn nes cyrraedd yn ôl i Machanaîm.

30. Wedi i Joab stopio mynd ar ôl Abner, dyma fe'n galw ei filwyr at ei gilydd. Dim ond un deg naw o ddynion Dafydd oedd wedi eu colli, ar wahân i Asahel.

31. Ond roedd milwyr Dafydd wedi rhoi crasfa iawn i ddynion Benjamin, sef byddin Abner – roedd tri chant chwe deg ohonyn nhw wedi eu lladd!

32. Yna dyma Joab a'i filwyr yn cymryd corff Asahel a'i gladdu ym medd ei dad yn Bethlehem. Wedyn dyma nhw'n teithio drwy'r nos a chyrraedd yn ôl i Hebron pan oedd hi'n gwawrio.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 2