Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 2:25-30 beibl.net 2015 (BNET)

25. Roedd dynion Benjamin wedi dod at ei gilydd yno ac yn sefyll gydag Abner yn un grŵp ar ben y bryn.

26. A dyma Abner yn gweiddi ar Joab, “Ydyn ni'n mynd i ddal ati i ladd ein gilydd am byth? Os daliwn ni ati bydd pethau yn ofnadwy o chwerw yn y diwedd. Dywed wrth dy ddynion am stopio mynd ar ôl eu brodyr!”

27. Dyma Joab yn ateb, “Petaet ti heb ddweud hyn, mor sicr â bod Duw yn fyw, byddai'r dynion wedi dal ati i fynd ar eich ôl chi drwy'r nos!”

28. Yna dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a dyma nhw'n stopio mynd ar ôl Israel, a rhoi'r gorau i'r ymladd.

29. Y noson honno dyma Abner a'i ddynion yn mynd ar draws yr Araba a chroesi'r Afon Iorddonen. Yna martsio yn eu blaenau drwy'r bore wedyn nes cyrraedd yn ôl i Machanaîm.

30. Wedi i Joab stopio mynd ar ôl Abner, dyma fe'n galw ei filwyr at ei gilydd. Dim ond un deg naw o ddynion Dafydd oedd wedi eu colli, ar wahân i Asahel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 2