Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 2:2-12 beibl.net 2015 (BNET)

2. Felly aeth Dafydd yno, gyda'i ddwy wraig, Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel.

3. A dyma'r dynion oedd wedi bod gydag e, a'u teuluoedd, yn mynd gyda Dafydd i fyw yn y trefi yn ardal Hebron.

4. Yna dyma ddynion Jwda yn dod ac eneinio Dafydd yn frenin ar bobl Jwda.Clywodd Dafydd mai pobl Jabesh yn Gilead oedd wedi claddu Saul.

5. Felly dyma fe'n anfon neges atyn nhw, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi am fod mor deyrngar i'ch meistr Saul, a'i gladdu.

6. Boed i'r ARGLWYDD fod yn garedig a ffyddlon i chi. Dw i hefyd yn mynd i'ch gwobrwyo chi am wneud hyn.

7. Nawr, peidiwch bod ag ofn. Byddwch yn ddewr! Er bod eich meistr, Saul, wedi marw, mae pobl Jwda wedi fy eneinio i yn frenin arnyn nhw.”

8. Yn y cyfamser roedd Abner fab Ner, un o gapteiniaid byddin Saul, wedi cymryd Ish-bosheth, mab Saul, a mynd ag e drosodd i Machanaîm.

9. Yno roedd wedi ei wneud e'n frenin ar Israel gyfan – gan gynnwys ardal Gilead, pobl Asher, Jesreel, Effraim a Benjamin.

10. Roedd Ish-bosheth, mab Saul, yn bedwar deg oed pan ddaeth yn frenin ar Israel. Bu'n frenin arnyn nhw am ddwy flynedd. Ond roedd pobl Jwda yn dilyn Dafydd.

11. Bu Dafydd yn frenin yn Hebron am saith mlynedd a hanner.

12. Yna dyma Abner fab Ner a swyddogion milwrol Ish-bosheth, mab Saul, yn mynd o Machanaîm i Gibeon.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 2