Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 2:13-26 beibl.net 2015 (BNET)

13. A dyma Joab, mab Serwia, a swyddogion milwrol Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw. Dyma'r ddau grŵp yn aros, un bob ochr i'r pwll yn Gibeon.

14. Dyma Abner yn gweiddi draw at Joab, “Gad i rai o'r milwyr ifanc ymladd yn erbyn ei gilydd o'n blaenau ni.” A dyma Joab yn cytuno.

15. Felly dyma nhw'n cyfri un deg dau o lwyth Benjamin ar ochr Ish-bosheth, ac un deg dau o swyddogion Dafydd.

16. Wrth reslo gyda'i gilydd dyma pob un yn gwthio'i gleddyf i ochr ei wrthwynebydd, a dyma nhw i gyd yn syrthio'n farw. (Dyna pam maen nhw'n galw'r lle hwnnw yn Gibeon yn ‛Faes y Llafnau‛.)

17. Roedd yr ymladd yn galed y diwrnod hwnnw, a chafodd Abner a byddin Israel eu trechu gan filwyr Dafydd.

18. Roedd tri mab Serwia yno, sef Joab, Abishai ac Asahel. Roedd Asahel yn gallu rhedeg mor gyflym â gasél,

19. a dyma fe'n mynd ar ôl Abner. Roedd yn gwbl benderfynol o'i ddal.

20. Dyma Abner yn troi i edrych yn ôl a galw arno, “Ai ti ydy e Asahel?” “Ie, fi!” meddai Asahel.

21. “Dos ar ôl rhywun arall. Dal un o'r milwyr ifanc a chymryd ei arfau e,” meddai Abner wrtho. Ond doedd Asahel ddim yn fodlon rhoi'r gorau iddi.

22. Galwodd Abner arno eto, “Tro yn ôl! Does gen i ddim eisiau dy ladd di. Sut allwn i wynebu Joab dy frawd?”

23. Ond roedd Asahel yn gwrthod stopio. Felly dyma Abner yn ei daro yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy'i gefn. Syrthiodd Asahel yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb aeth heibio lle roedd Asahel wedi marw yn sefyll yn syn.

24. Ond dyma Joab ac Abishai yn mynd ar ôl Abner.Erbyn iddi nosi roedden nhw wedi cyrraedd bryn Amma sydd gyferbyn â Giach, i gyfeiriad anialwch Gibeon.

25. Roedd dynion Benjamin wedi dod at ei gilydd yno ac yn sefyll gydag Abner yn un grŵp ar ben y bryn.

26. A dyma Abner yn gweiddi ar Joab, “Ydyn ni'n mynd i ddal ati i ladd ein gilydd am byth? Os daliwn ni ati bydd pethau yn ofnadwy o chwerw yn y diwedd. Dywed wrth dy ddynion am stopio mynd ar ôl eu brodyr!”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 2