Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 19:4-14 beibl.net 2015 (BNET)

4. Roedd y brenin â'i wyneb yn ei ddwylo, yn crïo'n uchel, “O fy mab Absalom! Absalom, fy mab i, fy mab i!”

5. Dyma Joab yn mynd i'r tŷ at y brenin, a dweud, “Mae dy weision wedi achub dy fywyd di a bywydau dy blant, dy wragedd a dy gariadon. A dyma ti, heddiw, yn codi cywilydd arnyn nhw i gyd!

6. Rwyt ti fel petaet ti'n caru'r rhai sy'n dy gasáu, ac yn casáu'r rhai sy'n dy garu di! Mae'n amlwg fod dy swyddogion a'r dynion yma i gyd yn golygu dim i ti. Mae'n siŵr y byddai'n well gen ti petai Absalom yn dal yn fyw, a ninnau i gyd wedi marw!

7. Nawr, dos allan yna i longyfarch ac annog dy weision. Dw i'n addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, os na ei di allan fydd gen ti neb ar dy ochr di erbyn heno. Bydd pethau'n waeth arnat ti na fuon nhw erioed o'r blaen!”

8. Felly dyma'r brenin yn codi, a mynd allan i eistedd wrth giât y ddinas. Pan ddywedwyd wrth y bobl, dyma nhw i gyd yn mynd yno i sefyll o'i flaen.Roedd milwyr Israel (oedd wedi cefnogi Absalom) i gyd wedi dianc am adre.

9. Roedd yna lot fawr o drafod a dadlau drwy lwythau Israel i gyd. Roedd pobl yn dweud, “Y brenin wnaeth ein hachub ni o afael ein gelynion. Achubodd ni o afael y Philistiaid, ond mae e wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom!

10. A nawr mae Absalom, gafodd ei wneud yn frenin arnon ni, wedi cael ei ladd yn y frwydr. Pam yr oedi? Ddylen ni ddim gofyn i Dafydd ddod yn ôl?”

11. Dyma'r Brenin Dafydd yn anfon neges at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid: “Gofynnwch i arweinwyr Jwda, ‘Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl? Dw i wedi clywed fod Israel i gyd yn barod!

12. Dŷn ni'n perthyn i'n gilydd! Dŷn ni'r un cig a gwaed! Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl?’

13. Hefyd rhowch y neges yma i Amasa: ‘Rwyt ti'n perthyn yn agos i mi. Dw i'n addo i ti o flaen Duw mai ti fydd pennaeth y fyddin yn lle Joab o hyn ymlaen.’”

14. Llwyddodd i ennill cefnogaeth pobl Jwda i gyd – roedden nhw'n hollol unfrydol. A dyma nhw'n anfon neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a dy ddynion i gyd.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 19