Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 19:38-43 beibl.net 2015 (BNET)

38. Dyma'r brenin yn ateb, “Iawn, caiff Cimham ddod gyda mi, a gwna i roi iddo fe beth fyddwn i wedi ei roi ti. A cei dithau beth wyt ti eisiau.”

39. Felly dyma'r bobl i gyd yn croesi'r Iorddonen gyda'r brenin. Roedd y brenin wedi cusanu ffarwél i Barsilai a'i fendithio, ac roedd Barsilai wedi mynd adre.

40. Pan aeth y brenin drosodd i Gilgal aeth Cimham gydag e.Roedd milwyr Jwda i gyd a hanner rhai Israel wedi dod i hebrwng y brenin dros yr afon.

41. Ond dechreuodd dynion Israel i gyd fynd at y brenin, yn gofyn iddo, “Pam mae'n brodyr ni, pobl Jwda, wedi sleifio'r brenin a'i deulu ar draws yr afon gyda'i filwyr i gyd?”

42. “I'n llwyth ni mae'r brenin yn perthyn,” meddai dynion Jwda. “Pam dych chi'n codi helynt am y peth? Ydyn ni wedi cael bwyd yn dâl ganddo? Neu wobr o ryw fath?”

43. A dyma ddynion Israel yn ateb yn ôl, “Mae gynnon ni ddeg gwaith cymaint o hawl ar y brenin na chi! Pam ydych chi'n ein bychanu ni fel yma? Ni oedd y rhai cyntaf i awgrymu dod â'r brenin yn ôl!” Ond roedd dynion Jwda'n dweud pethau tipyn mwy cas na dynion Israel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 19