Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 19:30-42 beibl.net 2015 (BNET)

30. “Gad iddo fe gymryd y cwbl,” meddai Meffibosheth, “Beth sy'n bwysig i mi ydy dy fod ti, syr, wedi dod yn ôl adre'n saff.”

31. Roedd Barsilai o Gilead wedi dod i lawr o Rogelîm, ac wedi croesi'r Iorddonen i hebrwng y brenin ar ei ffordd.

32. Roedd yn hen iawn – yn wyth deg mlwydd oed – ac wedi gofalu am y brenin tra roedd yn aros yn Machanaîm. Roedd yn ddyn pwysig iawn.

33. Dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Tyrd gyda mi i Jerwsalem, a gwna i dy gynnal di yno.”

34. Ond dyma Barsilai yn ateb, “Na, does dim pwynt i mi ddod i Jerwsalem. Fydda i ddim byw yn hir iawn eto.

35. Dw i'n wyth deg oed, ac yn dda i ddim i neb. Dw i ddim yn cael yr un blas ar fwyd a diod ag oeddwn i. Alla i ddim clywed dynion a merched yn canu. Pam ddylwn i fod yn fwrn ar fy meistr, y brenin?

36. Gwna i ddod gyda ti beth o'r ffordd yr ochr draw i'r Iorddonen, ond does dim angen i'r brenin roi'r fath wobr i mi.

37. Plîs, gad i mi fynd adre i farw yn y dref lle mae dad a mam wedi cael eu claddu. Ond mae dy was Cimham yma, gad iddo fe fynd gyda ti yn fy lle i, syr. Cei roi beth bynnag wyt eisiau iddo fe.”

38. Dyma'r brenin yn ateb, “Iawn, caiff Cimham ddod gyda mi, a gwna i roi iddo fe beth fyddwn i wedi ei roi ti. A cei dithau beth wyt ti eisiau.”

39. Felly dyma'r bobl i gyd yn croesi'r Iorddonen gyda'r brenin. Roedd y brenin wedi cusanu ffarwél i Barsilai a'i fendithio, ac roedd Barsilai wedi mynd adre.

40. Pan aeth y brenin drosodd i Gilgal aeth Cimham gydag e.Roedd milwyr Jwda i gyd a hanner rhai Israel wedi dod i hebrwng y brenin dros yr afon.

41. Ond dechreuodd dynion Israel i gyd fynd at y brenin, yn gofyn iddo, “Pam mae'n brodyr ni, pobl Jwda, wedi sleifio'r brenin a'i deulu ar draws yr afon gyda'i filwyr i gyd?”

42. “I'n llwyth ni mae'r brenin yn perthyn,” meddai dynion Jwda. “Pam dych chi'n codi helynt am y peth? Ydyn ni wedi cael bwyd yn dâl ganddo? Neu wobr o ryw fath?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 19