1. Dyma rywun yn dweud wrth Joab. “Mae'r brenin yn crïo ac yn galaru am Absalom.”
2. Pan glywodd y fyddin fod y brenin wedi torri ei galon am fod ei fab wedi marw, dyma'r fuddugoliaeth yn troi'n ddiwrnod o alar i bawb.
3. Pan ddaeth y fyddin yn ôl i Machanaîm, roedden nhw'n llusgo i mewn i'r dre fel byddin yn llawn cywilydd am eu bod wedi colli'r frwydr.
4. Roedd y brenin â'i wyneb yn ei ddwylo, yn crïo'n uchel, “O fy mab Absalom! Absalom, fy mab i, fy mab i!”
5. Dyma Joab yn mynd i'r tŷ at y brenin, a dweud, “Mae dy weision wedi achub dy fywyd di a bywydau dy blant, dy wragedd a dy gariadon. A dyma ti, heddiw, yn codi cywilydd arnyn nhw i gyd!
6. Rwyt ti fel petaet ti'n caru'r rhai sy'n dy gasáu, ac yn casáu'r rhai sy'n dy garu di! Mae'n amlwg fod dy swyddogion a'r dynion yma i gyd yn golygu dim i ti. Mae'n siŵr y byddai'n well gen ti petai Absalom yn dal yn fyw, a ninnau i gyd wedi marw!
7. Nawr, dos allan yna i longyfarch ac annog dy weision. Dw i'n addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, os na ei di allan fydd gen ti neb ar dy ochr di erbyn heno. Bydd pethau'n waeth arnat ti na fuon nhw erioed o'r blaen!”