Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 17:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma Achitoffel yn dweud wrth Absalom, “Gad i mi gymryd un deg dau o filoedd o ddynion, a mynd allan ar ôl Dafydd, heno!

2. Bydd e wedi blino'n lân ac yn wan erbyn i mi ddal i fyny ag e. Bydda i'n ei ddychryn, a bydd ei fyddin yn dianc mewn panig. Dim ond y brenin wna i ei ladd.

3. Gwna i ddod â gweddill y bobl yn ôl atat ti. Dim ond un dyn sydd angen ei ladd. Fydd neb arall yn cael niwed.”

4. Roedd yn swnio'n gynllun da i Absalom ac arweinwyr Israel i gyd.

5. Ond yna dyma Absalom yn dweud, “Dewch â Chwshai yr Arciad yma, i ni weld beth sydd ganddo fe i'w ddweud.”

6. Pan ddaeth Chwshai, dyma Absalom yn dweud wrtho beth oedd cyngor Achitoffel. “Beth ydy dy farn di? Ydy e'n gyngor da? Ac os ddim, beth wyt ti'n awgrymu?”

7. Dyma Chwshai yn ateb, “Na, dydy cyngor Achitoffel ddim yn dda y tro yma.

8. Mae dy dad a'i ddynion yn filwyr dewr. Ti'n gwybod hynny'n iawn. Maen nhw'n gallu bod mor filain ag arth wyllt wedi colli ei chenawon! Mae e wedi hen arfer rhyfela. Fyddai e byth yn cysgu'r nos gyda'i ddynion.

9. Mae'n siŵr ei fod yn cuddio mewn rhyw ogof neu rywle tebyg. Petai e'n ymosod ar dy ddynion di gyntaf, a rhai ohonyn nhw'n cael eu lladd, byddai'r stori'n mynd ar led fod byddin Absalom wedi cael crasfa.

10. Bydd hyd yn oed y milwyr mwyaf dewr – y rhai sy'n gryfion fel llewod – yn digalonni. Mae pobl Israel i gyd yn gwybod fod dy dad wedi hen arfer rhyfela, a bod y dynion sydd gydag e yn filwyr profiadol.

11. Dyma fy nghyngor i: Casgla ddynion Israel i gyd at ei gilydd, pawb – o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de (Byddin fydd fel y tywod ar lan y môr, yn amhosib i'w cyfrif!) A dw i'n meddwl y dylet ti dy hun eu harwain nhw i'r frwydr.

12. Wedyn, ble bynnag mae e, byddwn ni'n disgyn arno fel gwlith ar y ddaear. Fydd e na neb arall sydd gydag e yn cael eu gadael yn fyw!

13. A hyd yn oed os bydd e'n llwyddo i ddianc i ryw dref gaerog, bydd dynion Israel yn tynnu'r waliau i lawr gyda rhaffau a llusgo'r dref i lawr i'r ceunant. Fydd dim hyd yn oed un garreg fechan ar ôl!”

14. A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.”A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 17