Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 16:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. Ond dyma'r brenin yn ateb, “Dydy e ddim o'ch busnes chi, feibion Serwia. Os ydy e'n fy rhegi fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am fy melltithio i, pwy ydych chi i'w stopio?”

11. A dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai a'i swyddogion, “Mae fy mab i fy hun yn ceisio fy lladd i! Meddyliwch! Mae gan y dyn yma o lwyth Benjamin lot mwy o reswm i fod eisiau gwneud hynny! Gadewch lonydd iddo regi os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho am wneud hynny.

12. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gweld fy mod i'n cael cam, ac yn gwneud da i mi yn lle'r holl felltithio yma.”

13. Felly aeth Dafydd a'i filwyr yn eu blaenau ar y ffordd. Ond roedd Shimei yn cadw i fyny â nhw ar ochr y bryn gyferbyn, ac yn rhegi a thaflu cerrig a phridd atyn nhw.

14. Roedd y brenin a'r bobl i gyd wedi blino'n lân erbyn iddyn nhw gyrraedd. Felly dyma nhw'n cymryd seibiant.

15. Yn y cyfamser roedd Absalom, a byddin Israel gyfan, wedi cyrraedd Jerwsalem. Roedd Achitoffel gydag e.

16. Yna dyma gynghorydd Dafydd, Chwshai yr Arciad, yn mynd i gyfarch Absalom a dweud, “Hir oes i'r brenin! Hir oes i'r brenin!”

17. Gofynnodd Absalom iddo, “Ai dyma beth ydy bod yn driw i dy ffrind, Dafydd? Pam est ti ddim gydag e?”

18. A dyma Chwshai yn ateb, “Na, dw i'n driw i'r un mae'r ARGLWYDD a'r bobl yma, sef pobl Israel i gyd, wedi ei ddewis. Gyda hwnnw bydda i'n aros.

19. A beth bynnag, rwyt ti'n fab iddo! Pam ddylwn i ddim dy wasanaethu di? Gwna i dy wasanaethu di fel gwnes i wasanaethu dy dad.”

20. Yna dyma Absalom yn gofyn i Achitoffel, “Rho gyngor i ni. Be ddylen ni ei wneud nesa?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 16