Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 14:3-18 beibl.net 2015 (BNET)

3. Yna dos at y brenin a dweud fel yma: …” (A dyma Joab yn dweud wrthi yn union beth i'w ddweud.)

4. Felly dyma'r wraig o Tecoa yn mynd at y brenin. Aeth ar ei gliniau ac ymgrymu o'i flaen gyda'i hwyneb ar lawr. “Plîs helpa fi, o frenin.”

5. “Beth sy'n bod?” meddai Dafydd. A dyma hi'n ateb, “Gwraig weddw ydw i. Mae'r gŵr wedi marw.

6. Roedd gen i ddau fab, a dyma nhw'n dechrau ymladd allan yng nghefn gwlad. Doedd yna neb o gwmpas i'w gwahanu, a dyma un yn taro'r llall a'i ladd.

7. A nawr mae aelodau'r clan i gyd wedi troi yn fy erbyn i, ac yn mynnu, ‘Rho dy fab i ni. Rhaid iddo farw am lofruddio ei frawd.’ Ond fe ydy'r etifedd. Os gwnân nhw hynny, bydd y fflam olaf sydd gen i wedi diffodd! Fydd yna neb ar ôl i gadw enw'r gŵr yn fyw.”

8. Dyma'r brenin Dafydd yn dweud wrth y wraig, “Dos adre. Gwna i setlo'r achos i ti.”

9. A dyma'r wraig yn dweud wrth y brenin, “Os bydd unrhyw broblem, arna i a'm teulu mae'r bai. Does dim bai o gwbl ar fy meistr y brenin a'i orsedd.”

10. Ond dyma'r brenin yn ateb, “Os bydd unrhyw un yn cwestiynu'r peth, gwna i ddelio gydag e. Fydd e ddim dy blagio di byth eto!”

11. A dyma hi'n gofyn, “Plîs wnei di addo i mi o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, na fydd y perthynas agosaf yn mynnu dial ar fy mab a tywallt mwy o waed eto?”“Ar fy llw,” meddai'r brenin, “fydd neb yn cyffwrdd blewyn o wallt ei ben!”

12. Yna dyma'r wraig yn gofyn, “Plîs ga i ddweud un peth arall wrthot ti, syr?”“Ie, beth?” meddai'r brenin.

13. A dyma hi'n dweud, “Pam wyt ti wedi gwneud yr un math o beth yn erbyn pobl Dduw? Wrth roi'r dyfarniad yna i mi rwyt ti'n barnu dy hun yn euog. Dwyt ti ddim wedi gadael i dy fab sy'n alltud ddod yn ôl adre.

14. Rhaid i ni i gyd farw rywbryd. Dŷn ni fel dŵr yn cael ei dywallt ar y tir a neb yn gallu ei gasglu'n ôl. Dydy Duw ddim yn cymryd bywyd rhywun cyn pryd; ond mae e yn trefnu ffordd i ddod â'r un sydd wedi ei alltudio yn ôl adre.

15. Nawr, dw i wedi dod i siarad â'r brenin, fy meistr, am fod pobl yn codi ofn arna i. Ro'n i'n meddwl, ‘Os gwna i siarad â'r brenin falle y bydd e'n gwneud beth dw i'n ei ofyn.

16. Bydd y brenin yn siŵr o wrando. Bydd e'n fy achub i oddi wrth yr un sydd am fy ngyrru i a'm mab o'r etifeddiaeth roddodd Duw i ni.’

17. Ro'n i'n meddwl, ‘Bydd ateb y brenin yn dod â chysur i mi. Achos mae'r brenin fel angel Duw, yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg.’ Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti!”

18. A dyma'r brenin Dafydd yn ateb, “Dw i eisiau gwybod un peth. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” “Gofyn, syr,” meddai'r wraig.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 14