Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13:7-24 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo.

8. A dyma Tamar yn mynd i dŷ Amnon, lle roedd yn gorwedd. Cymerodd does a'i baratoi o'i flaen a'i goginio.

9. Ond pan ddaeth â'r bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma fe'n gorchymyn i'w weision “Pawb allan o ma!” a dyma nhw i gyd yn mynd.

10. Wedyn dyma Amnon yn dweud wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r ystafell wely, a gwna i fwyta yno.” Felly dyma Tamar yn mynd â'r bwyd oedd hi newydd ei baratoi at ei brawd Amnon i'r ystafell wely.

11. Ond wrth iddi ei annog i fwyta, dyma fe'n gafael ynddi a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi, chwaer.”

12. “Na! frawd, paid!” meddai hi. “Paid treisio fi. Dydy pobl Israel ddim yn gwneud pethau fel yna. Paid gwneud peth mor erchyll.

13. Allwn i ddim byw gyda'r cywilydd. A fyddai neb yn Israel yn dy barchu di am wneud peth mor erchyll. Plîs paid. Gofyn i'n tad, y brenin; wnaiff e ddim gwrthod fy rhoi i ti.”

14. Ond doedd Amnon ddim am wrando arni. Roedd yn gryfach na hi, a dyma fe'n ei dal hi i lawr a'i threisio.

15. Ond wedyn dyma fe'n dechrau ei chasáu hi go iawn. Roedd yn ei chasáu hi nawr fwy nag roedd yn ei charu hi o'r blaen. A dyma fe'n dweud wrthi, “Cod! Dos o ma!”

16. Ond dyma Tamar yn ateb, “Na! Plîs paid! Mae fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti newydd ei wneud!” Ond doedd e ddim am wrando arni.

17. A dyma fe'n galw ei was ystafell, a dweud wrtho, “Dos â hon allan, a chloi'r drws tu ôl iddi!”

18. Felly dyma'r gwas yn ei thaflu allan, a bolltio'r drws ar ei hôl.Roedd hi mewn gwisg laes (y math o wisg fyddai merched dibriod y brenin yn arfer ei wisgo.)

19. Ond dyma Tamar yn rhwygo'r wisg a rhoi lludw ar ei phen. Aeth i ffwrdd â'i dwylo dros ei hwyneb, yn crïo'n uchel.

20. A dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydy'r brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â poeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon.

21. Pan glywodd y brenin Dafydd am bopeth oedd wedi digwydd, roedd yn flin ofnadwy.

22. Ond wnaeth Absalom ddweud dim o gwbl wrth Amnon, er ei fod yn ei gasáu am beth wnaeth e i'w chwaer Tamar.

23. Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor, wrth ymyl tref o'r enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti.

24. Aeth at y brenin a dweud, “Mae'r dynion acw'n cneifio. Tyrd aton ni i'r parti, a tyrd â dy swyddogion hefyd.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 13