28. Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i'n dweud, lladdwch e! Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!”
29. Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc.
30. Tra roedden nhw ar eu ffordd adre, roedd Dafydd wedi clywed si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhw'n dal yn fyw.
31. Felly cododd y brenin, rhwygo ei ddillad a gorwedd ar lawr. Ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o'i gwmpas, wedi rhwygo eu dillad nhw hefyd.
32. Ond dyma Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wedi ei lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar.
33. Ddylai'r brenin ddim credu'r stori fod ei feibion i gyd wedi eu lladd. Dim ond Amnon sydd wedi marw,
34. a bydd Absalom wedi dianc.”Yna dyma'r gwyliwr oedd ar ddyletswydd yn edrych allan a gweld tyrfa o bobl yn dod heibio'r bryn o gyfeiriad trefi Beth-choron.
35. A dyma Jonadab yn dweud wrth y brenin, “Edrych, dy feibion sy'n dod, fel gwnes i ddweud!”
36. A'r eiliad honno dyma feibion y brenin yn cyrraedd, yn crïo'n uchel. A dyma'r brenin ei hun a'i swyddogion i gyd yn dechrau beichio crïo hefyd.