Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13:22-29 beibl.net 2015 (BNET)

22. Ond wnaeth Absalom ddweud dim o gwbl wrth Amnon, er ei fod yn ei gasáu am beth wnaeth e i'w chwaer Tamar.

23. Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor, wrth ymyl tref o'r enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti.

24. Aeth at y brenin a dweud, “Mae'r dynion acw'n cneifio. Tyrd aton ni i'r parti, a tyrd â dy swyddogion hefyd.”

25. “Na, machgen i,” meddai'r brenin. “Ddown ni ddim i gyd, neu byddwn yn faich arnat ti.” Er i Absalom bwyso arno, doedd e ddim yn fodlon mynd. Ond dyma fe yn dymuno'n dda iddo.

26. Ond wedyn, dyma Absalom yn dweud, “Os ddoi di dy hun ddim, plîs gad i'm brawd Amnon ddod.”“Pam fyddet ti eisiau iddo fe fynd gyda ti?” holodd y brenin.

27. Ond roedd Absalom yn dal i bwyso arno, ac yn y diwedd dyma'r brenin yn anfon Amnon a'i feibion eraill i gyd. A dyma Absalom yn paratoi parti digon da i frenin.

28. Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i'n dweud, lladdwch e! Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!”

29. Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 13