Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 12:20-31 beibl.net 2015 (BNET)

20. Yna dyma Dafydd yn codi oddi ar lawr, yn ymolchi, rhoi olew ar ei wyneb a newid ei ddillad. Ac aeth i babell yr ARGLWYDD i addoli. Wedyn aeth yn ôl adre i'r palas a bwyta pryd o fwyd.

21. A dyma'i swyddogion yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n ymddwyn fel yma? Pan oedd y plentyn yn dal yn fyw roeddet ti'n crïo ac yn ymprydio. Ond nawr mae'r plentyn wedi marw dyma ti'n codi ac yn bwyta!”

22. Atebodd Dafydd, “Tra roedd y plentyn yn dal yn fyw ron i'n ymprydio ac yn crïo. Ro'n i'n meddwl falle y byddai'r ARGLWYDD yn tosturio ac yn gadael i'r plentyn fyw.

23. Ond nawr mae e wedi marw. Does dim pwynt gwrthod bwyd bellach. Alla i ddim dod ag e'n ôl. Bydda i yn mynd ato fe, ond wnaiff e ddim dod yn ôl ata i.”

24. Yna dyma Dafydd yn mynd i gysuro ei wraig, Bathseba. Cysgodd gyda hi a cael rhyw gyda hi. Cafodd fab iddo, a dyma nhw'n ei alw'n Solomon. Roedd yr ARGLWYDD yn caru'r plentyn,

25. a dyma fe'n rhoi neges drwy'r proffwyd Nathan yn dweud ei fod i gael ei alw'n Iedida, sef “Mae'r ARGLWYDD yn ei garu.”

26. Roedd Joab yn dal i ryfela yn erbyn Rabba, prifddinas yr Ammoniaid, a llwyddodd i ddal y gaer frenhinol.

27. Anfonodd neges at Dafydd, “Dw i wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio cronfa ddŵr y ddinas.

28. Mae'n bryd i ti gasglu gweddill y fyddin, a dod yma i warchae ar y ddinas. Wedyn ti fydd wedi ei choncro, nid fi, a fydd hi ddim yn cael ei henwi ar fy ôl i.”

29. Felly dyma Dafydd yn casglu'r fyddin i gyd a mynd i Rabba i ymladd yn ei herbyn a'i choncro.

30. Dyma fe'n cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd hi wedi ei gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd.

31. Symudodd y bobl allan, a'u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill haearn, a'u hanfon i'r gwaith brics.Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda pob un o drefi'r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda'i fyddin.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 12