Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 11:9-25 beibl.net 2015 (BNET)

9. Ond wnaeth Wreia ddim mynd adre. Arhosodd gyda'r gweision eraill wrth ddrws y palas.

10. Pan glywodd Dafydd fod Wreia heb fynd adre, galwodd amdano a gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim mynd adre neithiwr? Ti wedi bod i ffwrdd ers amser hir.”

11. Atebodd Wreia, “Mae'r Arch, a milwyr Israel a Jwda yn aros mewn pebyll. Mae Joab, y capten, a'r swyddogion eraill, yn gwersylla yn yr awyr agored. Fyddai hi'n iawn i mi fynd adre i fwyta ac yfed a chysgu gyda ngwraig? Ar fy llw, allwn i byth wneud y fath beth!”

12. Felly dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Aros yma am ddiwrnod arall. Gwna i dy anfon di yn ôl yfory.” Felly dyma Wreia yn aros yn Jerwsalem am ddiwrnod arall. Drannoeth

13. dyma Dafydd yn gwahodd Wreia i fwyta ac yfed gydag e, ac yn ei feddwi. Ond pan aeth Wreia allan gyda'r nos dyma fe'n cysgu allan eto gyda gweision ei feistr. Aeth e ddim adre.

14. Felly, y bore wedyn, dyma Dafydd yn gofyn i Wreia fynd â llythyr i Joab.

15. Dyma beth roedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr, “Rho Wreia yn y rheng flaen lle mae'r brwydro galetaf. Yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, a'i adael i gael ei daro a'i ladd.”

16. Roedd Joab wedi bod yn cadw golwg ar ddinas Rabba. A dyma fe'n rhoi Wreia lle roedd yn gwybod fod milwyr gorau'r gelyn yn ymladd.

17. Dyma filwyr y gelyn yn mentro allan i ymosod. Cafodd Wreia a nifer o filwyr eraill Dafydd eu lladd.

18. Yna dyma Joab yn anfon adroddiad at Dafydd i ddweud beth oedd wedi digwydd yn y frwydr.

19. Dwedodd wrth y negesydd, “Pan fyddi'n rhoi'r adroddiad o beth ddigwyddodd i'r brenin,

20. falle y bydd e'n gwylltio a dechrau holi: ‘Pam aethoch chi mor agos i'r ddinas i ymladd? Oeddech chi ddim yn sylweddoli y bydden nhw'n saethu o ben y waliau?

21. Pwy laddodd Abimelech fab Gideon yn Thebes? Gwraig yn gollwng maen melin arno o ben y wal! Pam aethoch chi mor agos i'r wal?’ Yna dywed wrtho ‘Cafodd dy was Wreia yr Hethiad ei ladd hefyd.’”

22. Felly, dyma'r negesydd yn mynd ac yn rhoi'r adroddiad yn llawn i Dafydd.

23. Meddai wrtho, “Daeth milwyr y gelyn allan i ymladd ar y tir agored. Ond dyma ni'n eu gyrru nhw yn ôl yr holl ffordd at giât y ddinas.

24. Ond wedyn dyma'r bwasaethwyr yn saethu o ben y wal, a lladd rhai o dy swyddogion. Roedd dy was Wreia yr Hethiad yn un ohonyn nhw.”

25. Dyma Dafydd yn dweud wrth y negesydd, “Dywed wrth Joab, ‘Paid poeni am y peth. Fel yna mae hi mewn rhyfel. Rhai'n cael eu lladd, eraill ddim. Brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas, a'i choncro!’ Annog e yn ei flaen!”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 11