Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 11:7-18 beibl.net 2015 (BNET)

7. Pan gyrhaeddodd Wreia, dyma Dafydd yn ei holi sut oedd Joab a'r fyddin, a beth oedd hanes y rhyfel.

8. Yna dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos adre i ymlacio.” A pan adawodd Wreia y palas, dyma'r brenin yn anfon anrheg ar ei ôl.

9. Ond wnaeth Wreia ddim mynd adre. Arhosodd gyda'r gweision eraill wrth ddrws y palas.

10. Pan glywodd Dafydd fod Wreia heb fynd adre, galwodd amdano a gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim mynd adre neithiwr? Ti wedi bod i ffwrdd ers amser hir.”

11. Atebodd Wreia, “Mae'r Arch, a milwyr Israel a Jwda yn aros mewn pebyll. Mae Joab, y capten, a'r swyddogion eraill, yn gwersylla yn yr awyr agored. Fyddai hi'n iawn i mi fynd adre i fwyta ac yfed a chysgu gyda ngwraig? Ar fy llw, allwn i byth wneud y fath beth!”

12. Felly dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Aros yma am ddiwrnod arall. Gwna i dy anfon di yn ôl yfory.” Felly dyma Wreia yn aros yn Jerwsalem am ddiwrnod arall. Drannoeth

13. dyma Dafydd yn gwahodd Wreia i fwyta ac yfed gydag e, ac yn ei feddwi. Ond pan aeth Wreia allan gyda'r nos dyma fe'n cysgu allan eto gyda gweision ei feistr. Aeth e ddim adre.

14. Felly, y bore wedyn, dyma Dafydd yn gofyn i Wreia fynd â llythyr i Joab.

15. Dyma beth roedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr, “Rho Wreia yn y rheng flaen lle mae'r brwydro galetaf. Yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, a'i adael i gael ei daro a'i ladd.”

16. Roedd Joab wedi bod yn cadw golwg ar ddinas Rabba. A dyma fe'n rhoi Wreia lle roedd yn gwybod fod milwyr gorau'r gelyn yn ymladd.

17. Dyma filwyr y gelyn yn mentro allan i ymosod. Cafodd Wreia a nifer o filwyr eraill Dafydd eu lladd.

18. Yna dyma Joab yn anfon adroddiad at Dafydd i ddweud beth oedd wedi digwydd yn y frwydr.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 11