Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 11:17-27 beibl.net 2015 (BNET)

17. Dyma filwyr y gelyn yn mentro allan i ymosod. Cafodd Wreia a nifer o filwyr eraill Dafydd eu lladd.

18. Yna dyma Joab yn anfon adroddiad at Dafydd i ddweud beth oedd wedi digwydd yn y frwydr.

19. Dwedodd wrth y negesydd, “Pan fyddi'n rhoi'r adroddiad o beth ddigwyddodd i'r brenin,

20. falle y bydd e'n gwylltio a dechrau holi: ‘Pam aethoch chi mor agos i'r ddinas i ymladd? Oeddech chi ddim yn sylweddoli y bydden nhw'n saethu o ben y waliau?

21. Pwy laddodd Abimelech fab Gideon yn Thebes? Gwraig yn gollwng maen melin arno o ben y wal! Pam aethoch chi mor agos i'r wal?’ Yna dywed wrtho ‘Cafodd dy was Wreia yr Hethiad ei ladd hefyd.’”

22. Felly, dyma'r negesydd yn mynd ac yn rhoi'r adroddiad yn llawn i Dafydd.

23. Meddai wrtho, “Daeth milwyr y gelyn allan i ymladd ar y tir agored. Ond dyma ni'n eu gyrru nhw yn ôl yr holl ffordd at giât y ddinas.

24. Ond wedyn dyma'r bwasaethwyr yn saethu o ben y wal, a lladd rhai o dy swyddogion. Roedd dy was Wreia yr Hethiad yn un ohonyn nhw.”

25. Dyma Dafydd yn dweud wrth y negesydd, “Dywed wrth Joab, ‘Paid poeni am y peth. Fel yna mae hi mewn rhyfel. Rhai'n cael eu lladd, eraill ddim. Brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas, a'i choncro!’ Annog e yn ei flaen!”

26. Pan glywodd Bathseba fod ei gŵr wedi marw, bu'n galaru amdano.

27. Ond wedi i'r cyfnod o alaru ddod i ben, dyma Dafydd yn anfon amdani a dod â hi i'w balas. Dyma hi'n dod yn wraig iddo, a chafodd fab iddo.Doedd yr ARGLWYDD ddim yn hapus o gwbl am beth roedd Dafydd wedi ei wneud,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 11