Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 11:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Dafydd yn anfon Joab a'i fyddin allan. Dyma Joab a'i swyddogion, a holl fyddin Israel, yn mynd ac yn trechu byddin yr Ammoniaid a chodi gwarchae at ddinas Rabba. Ond arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.

2. Yn hwyr un p'nawn, dyma Dafydd yn codi ar ôl bod yn gorffwys, a mynd i gerdded ar do fflat y palas. O'r fan honno dyma fe'n digwydd gweld gwraig yn ymolchi. Roedd hi'n wraig arbennig o hardd.

3. Dyma Dafydd yn anfon rhywun i ddarganfod pwy oedd hi, a daeth hwnnw yn ôl gyda'r ateb, “Bathseba ferch Eliam, gwraig Wreia yr Hethiad, ydy hi.”

4. Felly dyma Dafydd yn anfon negeswyr i'w nôl hi. Ac wedi iddi ddod dyma fe'n cael rhyw gyda hi. (Roedd hi newydd fod trwy'r ddefod o buro ei hun ar ôl ei misglwyf.) Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre.

5. Pan wnaeth hi ddarganfod ei bod hi'n feichiog, dyma hi'n anfon neges at Dafydd i ddweud wrtho.

6. Felly dyma Dafydd yn anfon neges at Joab, yn gofyn iddo anfon Wreia yr Hethiad ato. A dyma Joab yn gwneud hynny.

7. Pan gyrhaeddodd Wreia, dyma Dafydd yn ei holi sut oedd Joab a'r fyddin, a beth oedd hanes y rhyfel.

8. Yna dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos adre i ymlacio.” A pan adawodd Wreia y palas, dyma'r brenin yn anfon anrheg ar ei ôl.

9. Ond wnaeth Wreia ddim mynd adre. Arhosodd gyda'r gweision eraill wrth ddrws y palas.

10. Pan glywodd Dafydd fod Wreia heb fynd adre, galwodd amdano a gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim mynd adre neithiwr? Ti wedi bod i ffwrdd ers amser hir.”

11. Atebodd Wreia, “Mae'r Arch, a milwyr Israel a Jwda yn aros mewn pebyll. Mae Joab, y capten, a'r swyddogion eraill, yn gwersylla yn yr awyr agored. Fyddai hi'n iawn i mi fynd adre i fwyta ac yfed a chysgu gyda ngwraig? Ar fy llw, allwn i byth wneud y fath beth!”

12. Felly dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Aros yma am ddiwrnod arall. Gwna i dy anfon di yn ôl yfory.” Felly dyma Wreia yn aros yn Jerwsalem am ddiwrnod arall. Drannoeth

13. dyma Dafydd yn gwahodd Wreia i fwyta ac yfed gydag e, ac yn ei feddwi. Ond pan aeth Wreia allan gyda'r nos dyma fe'n cysgu allan eto gyda gweision ei feistr. Aeth e ddim adre.

14. Felly, y bore wedyn, dyma Dafydd yn gofyn i Wreia fynd â llythyr i Joab.

15. Dyma beth roedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr, “Rho Wreia yn y rheng flaen lle mae'r brwydro galetaf. Yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, a'i adael i gael ei daro a'i ladd.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 11