Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 10:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a gosod eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd byddin y Syriaid o Soba a Rechob, a milwyr Tob a Maacha yn paratoi i ymladd ar y tir agored.

9. Dyma Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid.

10. A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid.

11. “Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i ddod i'ch helpu chi.

12. Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”

13. Felly dyma Joab a'i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma'r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 10