Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 10:15-19 beibl.net 2015 (BNET)

15. Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli'r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw'n casglu at ei gilydd unwaith eto.

16. Dyma Hadadeser yn anfon am y Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i Afon Ewffrates, i ddod allan atyn nhw i Chelam. Shofach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser.

17. Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe'n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw'n croesi'r afon Iorddonen a dod i Chelam. Roedd y Syriaid wrthi'n gosod eu hunain yn rhengoedd i wynebu byddin Dafydd, a dyma nhw'n dechrau ymladd.

18. Ond dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith gant o filwyr cerbyd y Syriaid, a pedwar deg mil o filwyr traed. Cafodd Shofach, cadfridog byddin y Syriaid, ei ladd yn y frwydr hefyd.

19. Pan welodd y brenhinoedd oedd ar ochr Hadadeser eu bod wedi colli'r dydd, dyma nhw'n gwneud heddwch gydag Israel, a dod o dan ei hawdurdod. Felly, roedd gan y Syriaid ofn helpu'r Ammoniaid eto.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 10