Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 10:11-14 beibl.net 2015 (BNET)

11. “Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i ddod i'ch helpu chi.

12. Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”

13. Felly dyma Joab a'i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma'r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw.

14. Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai a dianc i mewn i'r ddinas. A dyma Joab yn stopio rhyfela yn erbyn yr Ammoniaid, a mynd yn ôl i Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 10