Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 10:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Beth amser wedyn dyma frenin yr Ammoniaid yn marw, a dyma ei fab, Chanŵn, yn dod yn frenin yn ei le.

2. Dyma Dafydd yn dweud, “Dw i am fod yn garedig at Chanŵn fab Nachash, am fod ei dad wedi bod yn garedig ata i.” Felly dyma fe'n anfon ei weision i gydymdeimlo â Chanŵn ar golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad Ammon,

3. dyma swyddogion y wlad yn dweud wrth eu meistr, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae'n debyg ei fod wedi anfon ei weision i ysbïo ac archwilio'r ddinas, er mwyn ei choncro hi!”

4. Felly dyma Chanŵn yn dal gweision Dafydd a siafio hanner barf pob un, a thorri eu dillad yn eu canol, fel bod eu tinau yn y golwg. Yna eu gyrru nhw adre.

5. Pan glywodd Dafydd am hyn, anfonodd ddynion i'w cyfarfod. Roedd arnyn nhw gywilydd garw. Awgrymodd y dylen nhw aros yn Jericho nes bod barf pob un wedi tyfu eto.

6. Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma nhw'n llogi dau ddeg mil o filwyr traed gan y Syriaid yn Beth-rechob a Soba, mil o filwyr gan frenin Maacha, a deuddeg mil o Tob.

7. Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan.

8. Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a gosod eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd byddin y Syriaid o Soba a Rechob, a milwyr Tob a Maacha yn paratoi i ymladd ar y tir agored.

9. Dyma Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid.

10. A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 10