Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 1:4-17 beibl.net 2015 (BNET)

4. “Dywed wrtho i, beth sydd wedi digwydd?” holodd Dafydd. A dyma'r dyn yn dweud wrtho, “Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a cafodd llawer ohonyn nhw eu hanafu a'u lladd. Mae Saul a'i fab Jonathan wedi eu lladd hefyd!”

5. A dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Sut wyt ti'n gwybod fod Saul a Jonathan wedi marw?”

6. A dyma fe'n dweud, “Roeddwn i ar Fynydd Gilboa, a dyma fi'n digwydd dod ar draws Saul yn pwyso ar ei waywffon. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion y gelyn yn dod yn agos ato.

7. Trodd rownd, a dyma fe'n fy ngweld i a galw arna i. ‘Dyma fi,’ meddwn i.

8. ‘Pwy wyt ti?’ gofynnodd. A dyma fi'n ateb, ‘Amaleciad ydw i.’

9. A dyma fe'n crefu arna i, ‘Tyrd yma a lladd fi. Dw i'n wan ofnadwy, a prin yn dal yn fyw.’

10. Felly dyma fi'n mynd draw ato a'i ladd, achos roeddwn i'n gweld ei fod wedi ei anafu'n ddrwg, ac ar fin marw. Yna dyma fi'n cymryd ei goron a'i freichled, a dod â nhw yma i ti syr.”

11. Dyma Dafydd yn rhwygo ei ddillad; a dyma'r dynion oedd gydag e yn gwneud yr un fath.

12. Buon nhw'n galaru ac yn wylo ac ymprydio drwy'r dydd dros Saul a'i fab Jonathan, a dros fyddin yr ARGLWYDD, pobl Israel oedd wedi cael eu lladd yn y frwydr.

13. Dyma Dafydd yn gofyn i'r dyn ifanc oedd wedi dod â'r neges iddo, “Un o ble wyt ti?”“Mab i Amaleciad wnaeth symud yma i fyw ydw i,” atebodd y dyn.

14. “Sut bod gen ti ddim ofn lladd y dyn roedd yr ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin?” meddai Dafydd.

15. Yna dyma Dafydd yn galw un o'i filwyr, a dweud wrtho, “Tyrd yma. Lladd e!” A dyma'r milwr yn ei ladd yn y fan a'r lle.

16. Roedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Arnat ti mae'r bai dy fod ti'n mynd i farw. Ti wedi tystio yn dy erbyn dy hun drwy ddweud mai ti laddodd yr un roedd yr ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin.”

17. Dyma Dafydd yn cyfansoddi'r gân yma i alaru am Saul a'i fab Jonathan.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 1