Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 9:9-20 beibl.net 2015 (BNET)

9. A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau a'r hyn roedd brenhines Sheba wedi ei roi i'r Brenin Solomon.

10. (Hefyd roedd gweision Huram, gyda help gweision Solomon, wedi cario aur o Offir, a llwythi lawer o goed algwm, a gemau gwerthfawr.

11. Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a palas y brenin o'r pren algwm, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Doedd neb wedi gweld dim byd tebyg iddyn nhw yng ngwlad Jwda cyn hynny!)

12. Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano – mwy nag roedd hi wedi ei roi i'r brenin. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.

13. Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,

14. heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr a'r farchnad sbeis. Roedd holl frenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau hefyd yn rhoi arian ac aur i Solomon.

15. Dyma Solomon yn gwneud dau gant o darianau mawr o aur wedi ei guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian!

16. Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dwy cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus.

17. Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi ei gorchuddio gydag aur pur.

18. Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd stôl droed aur o'i blaen a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau ar y ddwy ochr.

19. Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi!

20. Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 9