Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Cyrhaeddodd Jerwsalem yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario sbeisiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl.