Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 7:8-22 beibl.net 2015 (BNET)

8. Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu a cadw Gŵyl am saith diwrnod. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de.

9. Yna ar yr wythfed diwrnod dyma nhw'n cynnal cyfarfod. Roedden nhw wedi cysegru'r allor am saith diwrnod a dathlu'r Ŵyl am saith diwrnod arall.

10. Ar y trydydd ar hugain o'r seithfed mis dyma Solomon yn anfon y bobl adre. A dyma pawb yn gadael yn hapus ac ar ben eu digon am fod yr ARGLWYDD wedi bod mor dda i Dafydd a Solomon ac i'w bobl Israel.

11. Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD a palas y brenin. Gwnaeth bopeth roedd wedi bod eisiau ei wneud i'r deml a'r palas.

12. A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon yn y nos, a dweud wrtho, “Dw i wedi ateb dy weddi a dewis y lle yma yn deml lle mae aberthau i'w cyflwyno.

13. Pan fydda i'n gwneud iddi stopio glawio, neu'n galw locustiaid i ddifa cnydau'r tir, neu'n taro fy mhobl gyda haint,

14. os bydd fy mhobl, ie fy mhobl i, yn cyfaddef eu bai, gweddïo arna i a'm ceisio i a stopio gwneud pethau drwg, yna bydda i'n gwrando o'r nefoedd; bydda i'n maddau eu pechod ac yn iacháu eu gwlad.

15. “Bydda i'n gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu cyflwyno yn y lle yma.

16. Dw i wedi dewis a cysegru'r deml yma i fod yn gartref i mi am byth. Bydda i'n gofalu am y lle bob amser.

17. “Dw i eisiau i ti fyw fel gwnaeth dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud – bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi eu rhoi.

18. Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu fel gwnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd yn teyrnasu ar Israel am byth.’

19. “Ond os byddwch chi yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi eu rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill,

20. yna bydda i yn eu chwynnu nhw o'r tir dw i wedi ei roi iddyn nhw. Bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. A bydda i'n eich gwneud chi'n destun sbort ac yn jôc i bawb.

21. Ie, y deml yma hefyd, oedd yn adeilad mor wych – bydd pawb sy'n mynd heibio yn rhyfeddu ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’

22. A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 7