Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 6:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma Solomon yn dweud:“Mae'r ARGLWYDD yn dweudei fod yn byw mewn cwmwl tywyll.

2. ‘ARGLWYDD, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti,lle i ti fyw ynddo am byth.’”

3. Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno:

4. “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi ei addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud:

5. ‘Ers i mi ddod â'm pobl allan o wlad yr Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. A wnes i ddim dewis dyn i arwain fy mhobl Israel chwaith.

6. Ond nawr dw i wedi dewis Jerwsalem i aros yno, a Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’

7. Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.

8. Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da.

9. Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab wedi ei eni i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’

10. A bellach mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi ei addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.

11. Dw i wedi gosod yno yr Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda phobl Israel.”

12. Yna o flaen pawb, dyma fe'n mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr.

13. (Roedd Solomon wedi gwneud llwyfan o bres a'i osod yng nghanol yr iard. Roedd y llwyfan tua dwy fedr sgwâr, a dros fedr o uchder.) Safodd ar y llwyfan, yna mynd ar ei liniau o flaen pobl Israel i gyd a codi ei ddwylo i'r awyr,

14. a gweddïo,“O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd na'r ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti.

15. Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 6