Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 5:3-13 beibl.net 2015 (BNET)

3. Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll yn y seithfed mis.

4. Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r Lefiaid yn codi'r Arch.

5. A dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, Pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell.

6. Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd!

7. A dyma'r offeiriaid yn dod ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol yn y deml, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y ceriwbiaid.

8. Roedd adenydd y ceriwbiaid wedi eu lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion.

9. Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw.

10. Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen roedd Moses wedi eu rhoi ynddi yn Sinai. Dyma lechi'r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o'r Aifft.

11. Dyma'r offeiriaid yn dod allan o'r Lle Sanctaidd. Roedd pob un ohonyn nhw, o bob grŵp, wedi cysegru eu hunain.

12. Roedd yr holl Lefiaid oedd yn gerddorion – Asaff, Heman a Iedwthwn, gyda'u meibion a'u brodyr – yn gwisgo dillad o liain main gwyn. Roedden nhw'n sefyll i'r dwyrain o'r allor yn canu eu symbalau, nablau a thelynau. Wrth eu hymyl roedd cant dau ddeg o offeiriaid yn canu utgyrn.

13. Roedd y cerddorion a'r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda'i gilydd i roi mawl a diolch i'r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a'r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli'r ARGLWYDD a chanu'r geiriau,“Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”Tra roedden nhw'n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi'r deml.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 5