Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 4:8-20 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ac yna dyma fe'n gwneud deg bwrdd, a gosod y rhain yn y deml, pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Gwnaeth gant o fowlenni aur hefyd.

9. Wedyn dyma fe'n gwneud iard yr offeiriaid a'r cwrt mawr a'r drysau oedd wedi eu gorchuddio gyda pres.

10. Yna gosododd "Y Môr" i'r de-ddwyrain o'r deml.

11. Huram wnaeth y bwcedi lludw, y rhawiau a'r powlenni taenellu hefyd.Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi ei roi iddo i'w wneud ar deml Dduw.

12. Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi eu plethu i fynd dros y capiau,

13. pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri.

14. Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,

15. y basn anferth oedd yn cael ei alw "Y Môr", gyda'r un deg dau ychen oddi tano,

16. a hefyd y bwcedi lludw, y rhawiau a'r ffyrc. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Huram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi eu gwneud o bres gloyw.

17. Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sereda, wrth Afon Iorddonen.

18. Gwnaeth Solomon gymaint o'r pethau yma, doedd dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.

19. Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, a'r byrddau roedden nhw'n rhoi'r bara arno oedd i'w osod o flaen Duw,

20. y canwyllbrennau o aur pur, a'u lampau yn llosgi yn ôl y ddefod, wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 4