Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 4:7-18 beibl.net 2015 (BNET)

7. Yna dyma fe'n gwneud deg stand aur i ddal lampau, yn unol â'r patrwm, a'u gosod yn y deml. Roedd pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith.

8. Ac yna dyma fe'n gwneud deg bwrdd, a gosod y rhain yn y deml, pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Gwnaeth gant o fowlenni aur hefyd.

9. Wedyn dyma fe'n gwneud iard yr offeiriaid a'r cwrt mawr a'r drysau oedd wedi eu gorchuddio gyda pres.

10. Yna gosododd "Y Môr" i'r de-ddwyrain o'r deml.

11. Huram wnaeth y bwcedi lludw, y rhawiau a'r powlenni taenellu hefyd.Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi ei roi iddo i'w wneud ar deml Dduw.

12. Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi eu plethu i fynd dros y capiau,

13. pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri.

14. Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,

15. y basn anferth oedd yn cael ei alw "Y Môr", gyda'r un deg dau ychen oddi tano,

16. a hefyd y bwcedi lludw, y rhawiau a'r ffyrc. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Huram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi eu gwneud o bres gloyw.

17. Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sereda, wrth Afon Iorddonen.

18. Gwnaeth Solomon gymaint o'r pethau yma, doedd dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 4