Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 36:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw, a gwrthododd wrando ar y proffwyd Jeremeia oedd yn rhoi neges Duw iddo.

13. Dyma fe'n gwrthryfela yn erbyn y Brenin Nebwchadnesar, er fod hwnnw wedi gwneud iddo addo o flaen Duw y byddai'n deyrngar iddo. Trodd yn ystyfnig a penstiff a gwrthod troi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Israel.

14. Roedd arweinwyr yr offeiriaid a'r bobl hefyd yn anffyddlon, ac yn gwneud yr un math o bethau ffiaidd a'r gwledydd paganaidd. Dyma nhw'n llygru'r deml oedd wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.

15. Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, broffwydi i'w rhybuddio nhw dro ar ôl tro, am ei fod yn Dduw oedd yn tosturio wrth ei bobl a'i deml.

16. Ond roedden nhw'n gwneud hwyl ar ben negeswyr Duw, yn cymryd eu geiriau'n ysgafn a dirmygu ei broffwydi. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD mor ddig gyda nhw doedd dim byd allai neb ei wneud i atal y farn.

17. Anfonodd Duw frenin Babilon yn eu herbyn. Dyma hwnnw'n lladd y dynion ifainc â'r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed – y dynion a'r merched ifainc, na'r hen a'r oedrannus. Gadawodd yr ARGLWYDD iddo eu lladd nhw i gyd.

18. Cymerodd bopeth o deml Dduw, bach a mawr, popeth oedd yn stordai'r deml, a trysorau'r brenin a'i swyddogion, a mynd â'r cwbl i Babilon.

19. Wedyn dyma'r fyddin yn llosgi teml Dduw a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Dyma nhw'n llosgi'r palasau brenhinol a dinistrio popeth gwerthfawr oedd yno.

20. A dyma fe'n mynd â phawb oedd heb gael eu lladd yn gaethion i Babilon. Yno buon nhw'n gaethweision i'r brenin a'i feibion nes i'r Persiaid deyrnasu.

21. Felly daeth beth ddwedodd yr ARGLWYDD drwy Jeremeia yn wir. Cafodd y tir ei Sabothau, arhosodd heb ei drin am saith deg mlynedd.

22. Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo trwy Jeremeia. Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad:

23. “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw y nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pwy ohonoch chi sy'n perthyn i'w bobl? Boed i'r ARGLWYDD eich Duw fynd gyda chi yn ôl i Jerwsalem!’”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 36