Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 35:4-12 beibl.net 2015 (BNET)

4. Trefnwch eich hunain yn grwpiau yn ôl eich teuluoedd fel roedd y brenin Dafydd a Solomon ei fab wedi dweud.

5. Safwch yn y deml i helpu'r bobl o'r llwyth mae eich teulu chi yn ei gynrychioli.

6. Lladdwch ŵyn y Pasg, mynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, a paratoi popeth i'ch pobl allu gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud trwy Moses.”

7. Roedd Joseia wedi rhoi ei anifeiliaid ei hun i'r bobl oedd yno eu cyflwyno'n offrwm – 30,000 o ŵyn a geifr ifanc, a 3,000 o deirw ifanc.

8. Rhoddodd ei swyddogion hefyd anifeiliaid yn offrymau gwirfoddol i'r bobl, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Chilceia, Sechareia a Iechiel, prif swyddogion teml Dduw 2,600 o ŵyn a geifr ifanc a 300 o wartheg.

9. Rhoddodd Conaneia a'i frodyr Shemaia a Nethanel, a Chashafeia, Jeiel a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid 5,000 o ŵyn a geifr ifanc ar gyfer aberth y Pasg a 500 o wartheg.

10. Pan oedd popeth yn barod, dyma'r offeiriaid yn sefyll yn eu lle, a'r Lefiaid yn eu grwpiau, fel roedd y brenin wedi gorchymyn.

11. Yna dyma'r nhw'n lladd ŵyn y Pasg, a dyma'r offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor tra roedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid.

12. Roedden nhw'n rhoi'r offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr ar un ochr a'u rhannu i'r bobl yn eu grwpiau teuluol er mwyn i'r rheiny eu cyflwyno i'r ARGLWYDD fel mae'n dweud yn Sgrôl Moses. (Roedden nhw'n gwneud yr un peth gyda'r gwartheg hefyd.)

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 35