Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 35:2-8 beibl.net 2015 (BNET)

2. Roedd Joseia wedi trefnu dyletswyddau yr offeiriaid, a'u hannog i wneud eu gwaith yn nheml yr ARGLWYDD.

3. Wedyn dyma fe'n dweud wrth y Lefiaid oedd i ddysgu pobl Israel am yr offrymau a'r aberthau oedd i'w cysegru i'r ARGLWYDD, “Gosodwch yr Arch Sanctaidd yn y deml wnaeth Solomon, mab Dafydd brenin Israel, ei hadeiladu. Does dim angen i chi ei chario ar eich ysgwyddau bellach. Nawr rhowch eich hunain i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel!

4. Trefnwch eich hunain yn grwpiau yn ôl eich teuluoedd fel roedd y brenin Dafydd a Solomon ei fab wedi dweud.

5. Safwch yn y deml i helpu'r bobl o'r llwyth mae eich teulu chi yn ei gynrychioli.

6. Lladdwch ŵyn y Pasg, mynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, a paratoi popeth i'ch pobl allu gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud trwy Moses.”

7. Roedd Joseia wedi rhoi ei anifeiliaid ei hun i'r bobl oedd yno eu cyflwyno'n offrwm – 30,000 o ŵyn a geifr ifanc, a 3,000 o deirw ifanc.

8. Rhoddodd ei swyddogion hefyd anifeiliaid yn offrymau gwirfoddol i'r bobl, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Chilceia, Sechareia a Iechiel, prif swyddogion teml Dduw 2,600 o ŵyn a geifr ifanc a 300 o wartheg.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 35