Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 34:3-22 beibl.net 2015 (BNET)

3. Pan oedd wedi bod yn frenin am wyth mlynedd, ac yn dal yn fachgen ifanc un deg chwech mlwydd oed, dechreuodd addoli Duw fel y Brenin Dafydd. Yna pan oedd yn ugain oed aeth ati i lanhau a phuro Jwda a Jerwsalem trwy gael gwared â'r holl allorau lleol, polion y dduwies Ashera, y delwau cerrig a'r delwau o fetel tawdd.

4. Gorchmynnodd fod allorau Baal i gael eu chwalu, a'r allorau arogldarth uwch eu pennau. Cafodd polion y dduwies Ashera eu torri i lawr, a'r eilunod a'r delwau o fetel eu malu. Roedden nhw'n eu malu'n llwch mân, ac yna'n taflu'r llwch ar feddau'r bobl oedd wedi bod yn aberthu arnyn nhw.

5. Yna cafodd esgyrn yr offeiriaid paganaidd eu llosgi ar eu hallorau eu hunain.Ar ôl puro Jwda a Jerwsalem,

6. dyma fe'n gwneud yr un fath yn y trefi ac adfeilion y pentrefi o'u cwmpas yn ardaloedd Manasse, Effraim a Simeon, a chyn belled a Nafftali.

7. Chwalodd yr allorau a'r polion Ashera, malu'r delwau yn llwch mân, a dinistrio'r allorau arogldarth drwy diroedd gwlad Israel i gyd. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem.

8. Pan oedd wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd roedd yn dal i buro'r wlad a'r deml. Anfonodd Shaffan fab Atsaleia, gyda Maaseia, rheolwr y ddinas a Ioach fab Ioachas y cofnodydd, i atgyweirio teml yr ARGLWYDD ei Dduw.

9. Dyma nhw'n mynd at Chilceia, yr archoffeiriad, a rhoi'r arian oedd wedi ei gasglu yn y deml iddo. Roedd y Lefiaid oedd yn gwarchod y drysau wedi ei gasglu gan bobl Manasse ac Effraim, a phawb oedd ar ôl yn Israel, a hefyd pobl Jwda, Benjamin a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem.

10. A dyma nhw'n ei basio ymlaen i'r rhai oedd yn goruchwylio'r gwaith ar y deml, i dalu'r gweithwyr oedd yn gwneud y gwaith atgyweirio.

11. Cafodd yr arian ei roi i'r seiri coed a'r adeiladwyr i brynu cerrig wedi eu naddu, a choed ar gyfer y trawstiau a'r distiau, i atgyweirio'r adeiladau roedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso.

12. Roedd y gweithwyr yn onest ac yn gydwybodol. Lefiaid oedd yn goruchwylio – Iachath ac Obadeia oedd yn ddisgynyddion Merari, a Sechareia a Meshwlam yn ddisgynyddion i Cohath. Roedd Lefiaid eraill oedd yn gerddorion dawnus

13. yn goruchwylio'r labrwyr a'r gweithwyr eraill. Roedd rhai o'r Lefiaid yn ysgrifenyddion, neu yn swyddogion neu yn gofalu am y drysau.

14. Wrth iddyn nhw ddod â'r arian oedd wedi ei roi yn y deml allan, dyma Chilceia yr offeiriad yn ffeindio sgrôl o'r Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD i Moses.

15. Felly dyma Chilceia'n dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan.

16. Yna dyma Shaffan yn mynd â'r sgrôl a dweud wrth y brenin, “Mae dy weision wedi gwneud popeth wnest ti ddweud wrthyn nhw.

17. Maen nhw wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi ei drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio ac i'r gweithwyr.”

18. Yna aeth Shaffan yn ei flaen i ddweud wrth y brenin, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi'r sgrôl yma i mi.” A dyma fe'n darllen ohoni i'r brenin.

19. Pan glywodd y brenin eiriau'r Gyfraith, dyma fe'n rhwygo ei ddillad.

20. Yna dyma fe'n galw am Chilceia, Achicam fab Shaffan, Abdon fab Micha, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol.

21. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi'r ARGLWYDD ar fy rhan i a'r bobl sydd ar ôl yn Israel a Jwda, am beth mae'r sgrôl yma'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb fod yn ufudd iddo a gwneud beth mae'r sgrôl yma'n ddweud.”

22. Felly dyma Chilceia a'r rhai eraill ddewisodd y brenin yn mynd at Hulda y broffwydes. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Chasra) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 34