Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 34:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd.

2. Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl.

3. Pan oedd wedi bod yn frenin am wyth mlynedd, ac yn dal yn fachgen ifanc un deg chwech mlwydd oed, dechreuodd addoli Duw fel y Brenin Dafydd. Yna pan oedd yn ugain oed aeth ati i lanhau a phuro Jwda a Jerwsalem trwy gael gwared â'r holl allorau lleol, polion y dduwies Ashera, y delwau cerrig a'r delwau o fetel tawdd.

4. Gorchmynnodd fod allorau Baal i gael eu chwalu, a'r allorau arogldarth uwch eu pennau. Cafodd polion y dduwies Ashera eu torri i lawr, a'r eilunod a'r delwau o fetel eu malu. Roedden nhw'n eu malu'n llwch mân, ac yna'n taflu'r llwch ar feddau'r bobl oedd wedi bod yn aberthu arnyn nhw.

5. Yna cafodd esgyrn yr offeiriaid paganaidd eu llosgi ar eu hallorau eu hunain.Ar ôl puro Jwda a Jerwsalem,

6. dyma fe'n gwneud yr un fath yn y trefi ac adfeilion y pentrefi o'u cwmpas yn ardaloedd Manasse, Effraim a Simeon, a chyn belled a Nafftali.

7. Chwalodd yr allorau a'r polion Ashera, malu'r delwau yn llwch mân, a dinistrio'r allorau arogldarth drwy diroedd gwlad Israel i gyd. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem.

8. Pan oedd wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd roedd yn dal i buro'r wlad a'r deml. Anfonodd Shaffan fab Atsaleia, gyda Maaseia, rheolwr y ddinas a Ioach fab Ioachas y cofnodydd, i atgyweirio teml yr ARGLWYDD ei Dduw.

9. Dyma nhw'n mynd at Chilceia, yr archoffeiriad, a rhoi'r arian oedd wedi ei gasglu yn y deml iddo. Roedd y Lefiaid oedd yn gwarchod y drysau wedi ei gasglu gan bobl Manasse ac Effraim, a phawb oedd ar ôl yn Israel, a hefyd pobl Jwda, Benjamin a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem.

10. A dyma nhw'n ei basio ymlaen i'r rhai oedd yn goruchwylio'r gwaith ar y deml, i dalu'r gweithwyr oedd yn gwneud y gwaith atgyweirio.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 34