Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 33:2-12 beibl.net 2015 (BNET)

2. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.

3. Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu chwalu gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i dduwiau Baal, a polion i'r dduwies Ashera. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw.

4. Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml – yn y lle'r roedd ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Bydd fy enw yn Jerwsalem am byth.”

5. Cododd allorau i'r sêr yn y ddwy iard yn y deml.

6. Llosgodd ei fab yn aberth yn nyffryn Ben-hinnom, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth, darogan a swynion. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a pobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio.

7. Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o eilun-dduw a'i gosod yn y deml! – y lle roedd Duw wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdani, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth.

8. Wna i ddim symud Israel allan o'r tir dw i wedi ei roi i'r hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith, y rheolau a'r canllawiau gafodd eu rhoi drwy Moses.”

9. Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o flaen Israel!

10. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Manasse a'i bobl, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw o gwbl.

11. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dod ag arweinwyr byddin Asyria yn ei erbyn. Dyma nhw'n dal Manasse, rhoi bachyn yn ei drwyn a'i roi mewn cadwyni pres, a mynd ag e yn gaeth i Babilon.

12. Yng nghanol y creisis dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 33