Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 32:15-26 beibl.net 2015 (BNET)

15. Felly peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo a'ch camarwain chi. Peidiwch â'i gredu e. Wnaeth dim un o dduwiau'r gwledydd a'r teyrnasoedd eraill achub eu pobl o'n gafael ni. Felly pa obaith sydd gan eich duwiau chi o wneud hynny?’”

16. Aeth gweision Senacherib ymlaen i ddweud llawer mwy o bethau tebyg yn erbyn yr ARGLWYDD Dduw a'i was Heseceia.

17. Roedd Senacherib wedi ysgrifennu pethau oedd yn gwneud hwyl am ben yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn ei sarhau. “Doedd duwiau y gwledydd eraill ddim yn gallu achub eu pobl o'm gafael i. A fydd duw Heseceia ddim yn gallu achub ei bobl e chwaith.”

18. Yna dyma'r negeswyr yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg ar bobl Jerwsalem oedd ar y waliau. Y bwriad oedd eu dychryn nhw, fel bod Asyria'n gallu cymryd y ddinas.

19. Roedden nhw'n siarad am Dduw Jerwsalem fel petai'n un o'r duwiau roedd pobl y gwledydd eraill wedi eu gwneud iddyn nhw eu hunain.

20. Felly dyma'r Brenin Heseceia a'r proffwyd Eseia fab Amos yn gweddïo ar Dduw yn y nefoedd am y peth.

21. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon angel a lladd holl filwyr, capteniaid a swyddogion byddin Asyria. Ac roedd rhaid i Sechareia fynd yn ôl i'w wlad ei hun wedi ei gywilyddio. Aeth i mewn i deml ei dduw, a dyma rai o'i feibion ei hun yn ei daro i lawr a'i ladd gyda'r cleddyf.

22. A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD achub Heseceia a phobl Jerwsalem o afael Senacherib, brenin Asyria a phob gelyn arall o'u cwmpas.

23. O'r adeg yna ymlaen roedd Heseceia'n cael ei barchu gan y gwledydd eraill i gyd. Roedd llawer yn dod i Jerwsalem i roi offrwm i'r ARGLWYDD ac anrhegion gwerthfawr i Heseceia, brenin Jwda.

24. Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael – a bu bron iddo farw. Dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb a rhoi arwydd iddo y byddai'n gwella.

25. Ond doedd Heseceia ddim wedi gwerthfawrogi beth wnaeth yr ARGLWYDD iddo. Roedd e'n falch, ac roedd yr ARGLWYDD yn ddig gydag e, a gyda Jwda a Jerwsalem.

26. Ond ar ôl hynny roedd Heseceia'n sori am iddo fod mor falch, a phobl Jerwsalem hefyd. Felly doedd yr ARGLWYDD ddim yn ddig hefo nhw wedyn tra roedd Heseceia'n dal yn fyw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 32