Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 31:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd yr Ŵyl drosodd, dyma'r holl bobl oedd wedi bod yn bresennol yn mynd allan i drefi Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse a malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a chwalu'r allorau lleol trwy holl Jwda. Wedyn dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w trefi eu hunain.

2. Dyma Heseceia'n gosod yr offeiriaid a'r Lefiaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu dyletswyddau – sef cyflwyno'r offrymau i'w llosgi a'r offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, ac i weini, rhoi diolch a chanu mawl wrth y giatiau i deml yr ARGLWYDD.

3. Roedd y brenin yn rhoi cyfran o'i anifeiliaid ei hun yn offrymau i'w llosgi'n llwyr bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill wedi eu pennu yn y Gyfraith.

4. Yna dyma fe'n gorchymyn i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem i gyfrannu siâr yr offeiriaid a'r Lefiaid fel roedd Cyfraith yr ARGLWYDD yn dweud.

5. Pan glywodd pobl Israel hyn dyma nhw'n ymateb drwy ddod â'r gyfran gyntaf o'r ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, mêl a phopeth arall oedd yn tyfu yn eu caeau. Daethon nhw â lot fawr o stwff – un rhan o ddeg o bopeth.

6. Roedd pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn nhrefi Jwda hefyd yn cyfrannu un o bob deg o'u teirw a'u defaid, a phopeth arall roedden nhw wedi ei osod o'r neilltu i'w roi i'r ARGLWYDD. Cafodd y cwbl ei osod yn bentyrrau.

7. Dechreuodd y pentyrru yn y trydydd mis, ac roedd hi'r seithfed mis erbyn iddyn nhw orffen.

8. Pan welodd Heseceia a'i swyddogion yr holl bentyrrau, dyma nhw'n bendithio'r ARGLWYDD a'i bobl Israel.

9. Yna dyma Heseceia'n holi'r offeiriaid a'r Lefiaid am y pentyrrau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 31