Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 30:12-27 beibl.net 2015 (BNET)

12. Yn Jwda, roedd Duw wedi creu awydd yn y bobl i gyd i ufuddhau i'r brenin a'r swyddogion oedd wedi gwneud beth roedd yr ARGLWYDD yn ei orchymyn.

13. Felly yn yr ail fis daeth tyrfa enfawr o bobl i Jerwsalem i gadw Gŵyl y Bara Croyw.

14. A dyma nhw'n mynd ati i gael gwared â'r allorau oedd yn Jerwsalem, a taflu'r holl allorau i losgi arogldarth i ddyffryn Cidron.

15. Cafodd oen y Pasg ei ladd ar y pedwerydd ar ddeg o'r ail fis. Cododd hyn gywilydd ar yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dyma nhw'n mynd ati i gysegru eu hunain i fynd i deml yr ARGLWYDD i gyflwyno offrymau llosg.

16. Dyma nhw'n sefyll yn eu lleoedd cywir, fel roedd cyfraith Moses, dyn Duw, yn dweud. Yna roedd yr offeiriaid yn derbyn gwaed yr anifeiliaid gan y Leifiaid a'i sblasio o gwmpas yr allor.

17. Gan fod llawer o bobl yno oedd heb fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, y Lefiaid oedd yn lladd yr ŵyn dros bawb oedd yn methu cyflwyno'r offrwm eu hunain.

18. Roedd y mwyafrif o bobl Effraim, Manasse, Issachar a Sabulon yn aflan, ac heb fod trwy'r ddefod o buro eu hunain. Er hynny dyma nhw'n bwyta o'r Pasg yn groes i beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud. Ond dyma Heseceia'n gweddïo drostyn nhw, “Boed i'r ARGLWYDD da, faddau

19. i bawb sydd wir am ddilyn eu Duw, sef yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, er nad ydyn nhw wedi cysegru eu hunain fel mae defod puro'r deml yn gofyn.”

20. A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Heseceia, a iacháu'r bobl.

21. Roedd pobl Israel yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moli'r ARGLWYDD bob dydd, ac yn canu ei glod yn uchel ar offerynnau cerdd.

22. Roedd Heseceia'n canmol y Lefiaid am eu dawn wrth addoli'r ARGLWYDD. Aeth y gwledda ymlaen am saith diwrnod. Roedden nhw'n cyflwyno offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ac yn cyffesu eu pechodau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.

23. Yna dyma pawb yn cytuno i gadw'r Ŵyl am saith diwrnod arall. Felly dyma nhw dal ati i ddathlu'n llawen am wythnos arall.

24. Roedd Heseceia wedi rhoi mil o deirw a saith mil a ddefaid a geifr i'r gynulleidfa. A dyma'r arweinwyr yn rhoi mil arall o deirw a deg mil o ddefaid a geifr iddyn nhw. A aeth llawer iawn mwy o offeiriaid drwy'r ddefod o buro eu hunain.

25. Roedd pobl Jwda yno, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl bobl oedd wedi dod o Israel, a'r mewnfudwyr oedd wedi dod o Israel i fyw yn Jwda – roedd pawb yno'n dathlu gyda'i gilydd.

26. Hwn oedd y dathliad mwyaf fuodd yn Jerwsalem ers pan oedd Solomon fab Dafydd yn frenin ar Israel.

27. Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn sefyll i fendithio'r bobl. Clywodd yr ARGLWYDD nhw o'i le sanctaidd yn y nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 30